Roedd y ffilmiau Back to the Future hynod boblogaidd yn darlunio’r dyfodol yn 2015 yn nhermau ceir oedd yn hedfan, hofranfyrddau, ceir oedd yn gyrru’u hunain a dilyniannau Jaws diddiwedd.
Mae Emmett ‘Doc’ Brown yn dweud am y dyfodol yn 2015 ‘ble rydym ni’n mynd ’does dim angen ffyrdd arnom’ – jôc sy’n gweithio am mai dyna’n hollol ydyw – ffuglen wyddonol. Yn ôl yn yr 1985
go iawn, mae’r car yn frenin.
Mae’r Rhyfel Oer ar ei anterth. Mae’r Gymuned Ewropeaidd eto i deithio ymhellach i lawr ‘Undeb Bythol Agosach’ cytuniad Maastricht – mae’r Ffranc, y Deutschmark, y Lira a’r lleill yn dal i fod yn arian cyfred cyfnewid i farchnad teithio tramor Ewropeaidd gynyddol.
Yng Nghymru, mae streic y Glowyr wedi pegynu’r byd gwleidyddol, ac yn rhagflaenu diwedd canrif o ddirywiad diwydiannol. Mae’r galw am ‘Senedd i Gymru’ yn dal i fod yn un diobaith i’r rhai oedd o blaid hynny, ar ôl gweld y galwadau am ryw gymaint o ddatganoli yn cael eu gwrthod yn bendant i bob golwg yn 1979 o 4 i 1.
Felly, wrth edrych tuag at y 30 mlynedd nesaf beth fyddech chi wedi’i wneud? Beth yw’r rhagdybiaethau am wleidyddiaeth, diwylliant a thueddiadau byd-eang a gymerir fel ffaith sicr, ac eto y cafwyd eu bod yn gyfeiliornus? Beth fyddai’r ffyrdd o reoli ansicrwydd? A fyddech chi wedi gwneud joben well na ‘Back to the Future’?
Wrth gynllunio’r seilwaith o ’nawr tan 2050, ble fyddech chi yn dechrau?