Mae’r pandemig Coronafeirws wedi herio pob rhan o gymdeithas; o’r gwasanaethau iechyd a gofal
cymdeithasol yn rheng flaen yr argyfwng iechyd, busnesau’n cau eu drysau i helpu i atal lledaeniad
y clefyd, i ni i gyd fel unigolion yn aros gartref i helpu i ddiogelu’r GIG. Mae ein holl ffordd o fyw
wedi’i newid yn ddramatig.
Dechreuodd Cymru ar gyfyngiadau symud ar 16eg Mawrth. Diolch i hynny, mae’r dystiolaeth yn
awgrymu bod hyn wedi cael effaith ar ledaeniad y feirws ac wedi helpu’r GIG i ddiogelu bywydau.
Bydd meddyliau’n dechrau troi at sut fyddwn yn ymadael â’r cyfyngiadau symud ac yn dechrau symud
yn araf tuag at ailgychwyn agweddau ar ein ffordd flaenorol o fyw neu o leiaf symud at ‘normal
newydd’. Rhaid i’r flaenoriaeth gyntaf yn y cyswllt hwn fod i ddiogelu iechyd a lles pobl Cymru.
Er bod y symudiad tuag at gyfyngiadau symud yn anhygoel o gyflym, rydym yn disgwyl i’r mesurau
gael eu llacio’n araf dros gyfnod llawer hirach o amser. Bydd hyn yn galw am gryn lawer o feddwl,
yn arbennig ar ran busnesau a’r llywodraeth ynghylch sut i ailgychwyn gweithgareddau yn ddiogel
mewn modd sydd nid yn unig yn diogelu iechyd y cyhoedd ond hefyd yn meithrin ymddiriedaeth,
hyder a sicrwydd ar ran unigolion a busnesau. Yn y ddogfen hon rydym yn gwneud rhywfaint o
awgrymiadau ynghylch sut i helpu busnesau i wneud y trawsnewid hwn yn ddiogel, a sut y gallwn
gefnogi busnesau i ailagor Cymru.