Fel rhan o’n gwaith ar Brexit, mae’r FSB wedi cyhoeddi pedwar adroddiad ledled y DU sy’n trin a thrafod agweddau allweddol Brexit a thu hwnt i fusnesau bach a’r hunangyflogedig. Y meysydd hyn oedd mynediad at farchnadoedd, sgiliau a llafur, cyllid o’r Undeb Ewropeaidd (UE) a beth nesaf, ac yn olaf ddyfodol rheoliadau’r UE yn y DU ar ôl Brexit.
Mae’r papur hwn yn cael ei lywio gan ganfyddiadau’r pedwar adroddiad yma, ac mae’n tynnu sylw at faterion sydd o arwyddocâd penodol i Gymru. Caiff ein canfyddiadau eu llywio gan arolygon ledled y DU gydag is-samplau arwyddocaol wedi’u tynnu o Gymru, ac o arolwg penodol i Gymru a wnaed gan FSB Cymru.