Mae cynllun newydd uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer economi Cymru, a amlinellir yn “Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu ar yr Economi”, yn ddilys yn nodi twristiaeth fel sector allweddol yn economi Cymru, sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr at swyddi a thwf mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn amlinellu ymagwedd newydd at gymorth busnes, a ffocws newidiol yng ngweithrediadau Llywodraeth Cymru.
Mae FSB Cymru wedi ceisio deall busnesau twristiaeth o fewn ein haelodaeth, a’r cymorth a dderbyniant gan y Llywodraeth, yn well. Rydym yn gefnogol i ffordd newydd Llywodraeth Cymru o fynd ati, ac yn dymuno darparu tystiolaeth fel sylfaen i’r penderfyniadau a wnânt a’r opsiynau yn y dyfodol ar gyfer cymorth busnes.
Cafodd ein gwaith ei ysgogi ymhellach gan yr awgrym o “dreth twristiaeth” gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar ddiwedd 2017. Mae’r darn hwn o waith wedi ceisio deall yr ymatebiadau cyntaf i’r cynnig hwn, ac yn cynnig barn ar ei ymarferoldeb i Gymru.
Mae’r FSB wedi cynnal arolwg o’r aelodau, ac ymchwil desg er mwyn deall anghenion a dyheadau ein haelodau mewn twristiaeth yn well. Mae’r adroddiad hwn yn gosod canlyniadau’r ymarferiad hwn allan ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar hynny.