Grym Creadigrwydd

FSB Policy Report 23 Oct 2024

Tyfu Busnesau Creadigol Cymru

Mae’r diwydiannau creadigol yn ddiwydiant twf sydd â photensial anferth i Gymru. Yn 2022, fe wnaeth y sector (gan eithrio gweithwyr llawrydd) gynhyrchu trosiant o £3.8biliwn, sy’n ffurfio 5.3% o gyfanswm Cynnyrch Domestig Gros (GDP) Cymru. Amcangyfrifir bod yn agos at 10,500 o fentrau gweithredol yn sector Diwydiannau Creadigol Cymru yn 2022 (gan gynnwys gweithwyr llawrydd), yn cyflogi rhwng 68,000 a 90,000 o bobl. 

Mae’n glir fod rhaid i’r cwestiwn o beth a olygwn gan ‘werth’ wrth drafod creadigrwydd a’r diwydiannau creadigol fynd y tu hwnt i ddim ond mesur data economaidd crai. Mae i’r celfyddydau a diwylliant ran allweddol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â theimlo’n unig ac ynysig, gan ysgogi ffyrdd gweithgar o fyw, gwella swyddogaeth wybyddol, cryfhau cydlyniant cymdeithasol a mynd i’r afael â gwreiddiau achosion troseddu. Mae’r sector felly yn ffordd o helpu unigolion i ddatblygu cysylltiadau, gwella meddwl creadigol a beirniadol, a meithrin hyder a sgiliau arwain. Mewn geiriau eraill, maent yn datblygu dinasyddion creadigol, hyderus. 

Mae dadansoddi Cymru Greadigol yn ôl maint y busnesau yn y sector hwn yn dangos ei bod yn cael ei dominyddu gan ficrofusnesau (hyd yn oed yn fwy felly na’r economi ehangach): 

  • roedd 1% o fusnesau’r diwydiannau creadigol yn ganolig a mawr (50+ yn gyflogedig),  
  • 6% yn fach (10-49 yn gyflogedig),  
  • 80% yn ficro (1-9 yn gyflogedig)  
  • roedd 14% â dim un yn gyflogedig. 

Wedi’i wreiddio mewn tystiolaeth gan BBaChau ar draws Cymru, mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut y gall strategaeth ar gyfer y diwydiannau creadigol ymorol adeiladu sylfaen i bobl greadigol BBaCh, gan greu sector sydd â lle a chyfle i dyfu. Mae yn amlinellu paham a sut, o’i wneud yn gywir, y byddai hyn yn ddefnydd wedi’i dargedu’n dda o adnoddau gyda buddion arwyddocaol o ran datblygu economaidd. Os caiff ei alinio â thwf BBaCh, byddai hyn yn darparu ar gyfer effaith ar draws llawer rhan o Gymru, mewn economïau trefol a gwledig fel ei gilydd, ac yn dod â buddsoddiad i mewn i ddiben, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer addysg a chyflogaeth i bobl ifanc ac felly gefnogi’r warant i bobl ifanc. Wrth gefnogi BBaChau yn y diwydiannau creadigol, gallwn gynyddu ffyniant a rhoi hwb i fuddion iechyd a lles ehangach, gan helpu ein cymunedau i ffynnu. 

Download the report here

English language version